Cofrestru

Datganiad Preifatrwydd ac Amodau & Amodau ar gyfer gwefan Therapi Gamblo

er mwyn cofrestru ar y wefan a defnyddio’r fforymau, mae’n rhaid i ddefnyddwyr roi enw defnyddiwr, cyfrinair a chyfeiriad e-bost. Nid yw Gweinyddwyr y fforymau hyn, na’r Cymedrolwyr sy’n cymryd rhan, yn gyfrifol am arferion preifatrwydd unrhyw ddefnyddiwr. Cofiwch fod pob gwybodaeth sy’n cael ei datgelu yn y mannau hyn yn dod yn wybodaeth gyhoeddus ac y dylech fod yn ofalus wrth benderfynu rhannu unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennych. Os bydd unrhyw ddefnyddiwr yn gweld bod deunydd y mae defnyddiwr arall yn ei bostio yn atgas, yna rydym yn eu hannog i gysylltu â ni drwy’r e-bost. Rydych chi yn ein hawdurdodi ni i ddileu neu newid unrhyw ddata rydych chi’n eu cyflwyno i’r fforymau hyn am unrhyw reswm rydym ni’n meddwl ei fod yn groes i’n polisïau, pa un a yw wedi ei ddatgan, ei ensynio ai peidio.

Mae’r wefan hon yn gallu cynnwys dolenni at wefannau a ffeiliau eraill. Dydym ni ddim yn gallu rheoli’r cynnwys a dydym ni ddim yn medru sicrhau na fydd yn annymunol neu’n atgas. Byddwn, fodd bynnag, yn dileu dolenni at ddeunydd rydym yn ei ystyried yn amhriodol wrth i ni ddod yn ymwybodol ohonyn nhw.

Trwy bwyso ar y botwm "Cofrestru", rydych yn cytuno eich bod chi’r defnyddiwr yn 13 oed neu fwy. Rydych yn hollol gyfrifol am unrhyw wybodaeth neu ffeil y mae’r defnyddiwr hwn yn ei ddarparu. Rydych yn cytuno hefyd na fyddwch yn postio unrhyw ddeunydd dan hawlfraint nad ydych chi na pherchnogion y fforymau hyn yn berchen arno. Wrth ddefnyddio’r fforymau hyn, rydych yn cytuno na fyddwch yn postio unrhyw wybodaeth sy’n ddi-chwaeth, erlidiol, atgas, bygythiol, sy’n tarfu ar breifatrwydd eraill, â naws rywiol iddi, neu sy’n groes i unrhyw gyfraith.

Os ydych chi’n cytuno â’r rheolau a’r polisïau y mae’r cytundeb hwn yn eu nodi, ac yn cyflawni’r meini prawf sydd wedi ei nodi ynddo, ewch ymlaen i bwyso ar y botwm “Cytuno” o danodd, neu fel arall pwyswch ar “Canslo”.

Newid Iaith
Beth sydd ymlaen a phryd?
betfilter