Sut y gallwn ni helpu

Mae gan Therapi Gamblo ddigonedd o sgiliau a phrofiad o helpu pobl y mae gamblo cymhellol yn effeithio arnyn nhw neu y mae gamblo cymhellol un o’u hanwyliaid yn effeithio arnyn nhw. Mae gennym amrywiaeth eang o gyfleusterau a gwasanaethau wedi eu llunio’n arbennig ar gyfer anghenion penodol ein cleientiaid. Mae ein grwpiau cymorth wedi eu llunio i helpu pobl gyda materion cyffredin, cyfnewid profiadau a syniadau am y dulliau gorau o ymdopi a dod yn rhydd o’u harfer gamblo.

Ar gyfer y rhai sy’n ymateb yn well i ddull un ag un o weithredu mae gennym gyngor a chynghori drwy e-bost. Beth bynnag yw eich problemau gamblo a beth bynnag ydych chi’n meddwl yw’r dull gorau o’u datrys, mae Therapi Gamblo yma i’ch helpu chi. I gael rhagor o wybodaeth, porwch ar y wefan neu gysylltu gyda’n llinell gymorth fyw.

Newid Iaith
Beth sydd ymlaen a phryd?

**British Summer Time

betfilter